Mae tân mawr yn lledu dros ynys Gran Canaria, gan orfodi i 1,000 o drigolion gael eu symud o’u cartrefi.
Mae wedi lledu dros 2,470 o erwau erbyn hyn, ond dydy’r tân ddim wedi dinistrio unrhyw adeiladau.
Fe fu dros 200 o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd y tân, ond does dim eglurhad eto ynghylch yr hyn oedd wedi ei achosi.
Mae byddin Sbaen hefyd yn cynorthwyo’r gwasanaethau brys.