Mae monsŵn wedi lladd o leiaf 17 o bobol yn ninas Karachi ym Mhacistan.
Bu farw nifer o bobol ar ôl cael eu trydanu, a thri arall o ganlyniad i do yn cwympo.
Bu farw pump o bobol yn y llifogydd a dau arall wedi’u trydanu yn rhanbarth y Punjab.
Mae’r ddinas wedi gweld dros 180 milimedr o law mewn cyfnod byr.
Mae cryn lifogydd fel arfer yn y wlad bob blwyddyn rhwng misoedd Gorffennaf a Medi.