Mae dyn 29 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o geisio llofruddio plismon yn Birmingham.
Mae’r plismon yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau i’w ben a’i belfis ar ôl cael ei daro gan gar lleidr honedig.
Ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl erbyn hyn.
Roedd e’n cwrso Range Rover oedd wedi cael ei ddwyn funudau cyn yr ymosodiad, pan gafodd ei ddyrnu i’r llawr a’i daro gan y cerbyd.
Mae lle i gredu bod y gyrrwr wedi gyrru am filltir arall cyn gadael y cerbyd a dwyn car arall.
Cafodd ei dawelu â gwn Taser cyn cael ei arestio.
Mae dyn 24 oed hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddwyn cerbyd.