Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi ymestyn hawl yr heddlu i stopio a chwilio unigolion sydd wedi’u hamau o droseddau treisgar, gan addo cyflwyno cosbau llymach ar gyfer y fath droseddau.
Mae’n dweud ei fod yn benderfynol o fynd i’r afael â’r niferoedd cynyddol o droseddau â chyllyll ac agweddau di-hid y troseddwyr sy’n dod yn fwyfwy cyffredin.
Bydd Llywodraeth Prydain yn buddsoddi £2.5m i greu 10,000 yn rhagor o lefydd mewn carchardai, meddai, a hynny er mwyn sicrhau bod troseddau difrifol a throseddau rhyw yn cael eu cosbi’n ddigonol.
Roedd e eisoes wedi amlinellu ei fwriad i sicrhau 20,000 yn rhagor o swyddi i blismyn dros gyfnod o dair blynedd.
Gwrthwynebu ymestyn y cynllun stopio a chwilio
Yn ôl Diane Abbott, llefarydd diogelwch cartref Llafur, mae ymestyn yr hawl i stopio a chwilio yn debygol o waethygu’r sefyllfa, nid ei gwella.
Mae’n dweud bod y cynllun yn “rysait ar gyfer anhrefn, ac nid ar gyfer lleihau trais”.
Daw’r cyhoeddiad ddyddiau’n unig ar ôl i blismon gael ei drywanu sawl gwaith â machete yn nwyrain Llundain.
Bydd ymestyn y cynllun yn golygu rhoi’r hawl i blismyn stopio a chwilio unigolion sydd wedi’u hamau o drosedd dreisgar heb fod angen awdurdod uwch-swyddog yr heddlu.
Mae Boris Johnson yn cydnabod fod y cynllun yn un dadleuol, ond mae’n dweud ei fod yn ffyddiog o sicrhau cefnogaeth rhieni’r plant sy’n wynebu risg o ganfod eu hunain yng nghanol troseddau â chyllyll.
Mae’r Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn dweud bod cyflwyno’r cynllun dro ar ôl tro a disgwyl “canlyniadau gwahanol” yn “gamgymeriad”.