Fe fydd bachgen a ddywedodd gelwydd wrth yr heddlu ar ôl iddo ladd y disgybl ysgol ramadeg Yousef Makki gyda chyllell, yn cael ei ddedfrydu heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 25)

Fe drywanodd Bachgen A, 17, y disgybl Yousef Makki, a oedd hefyd yn 17 oed, yn ei galon gyda chyllell ym mhentref Hale Burns, Caer ar Fawrth 2.

Cafodd y bachgen ei glirio o lofruddiaeth a chyfrif arall o ddynladdiad, a dedfryd am wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy ddweud celwydd wrth yr heddlu am fod a chyllell fflic mae’n cael.

Cafodd Bachgen B, 17, hefyd ei glirio o’r cyhuddiadau yn ei erbyn yn gynharach fis yma ar ddiwedd achos pedair wythnos yn Llys y Goron Manceinion.

Roedd Yousef Makki, oedd o dras Saesnig ac oedd a theulu o Lebanon, wedi ennill ysgoloriaeth i’r Ysgol Ramadeg Manceinion gwerth £ 12,000 y flwyddyn.

Mae’r ddau ddiffynnydd, sydd ar fechnïaeth, yn dal i wynebu dedfrydu am feddiannu’r cyllyll fflic, a brynwyd gan fachgen B ar ap ffon o’r enw Wish, ac mae bachgen A hefyd yn wynebu dedfryd am wyrdroi cwrs cyfiawnder.