Mae’r posibilrwydd o droi busnes Dur Prydain yn llwyddiant “yn bendant o fewn cyrraedd”, yn ôl Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth gwledydd Prydain, Greg Clark.
Tra’n ansicr ynglŷn â’i ddyfodol ei hun yn y Cabinet ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 24), dywedodd Mr Clark wrth Aelodau Seneddol y byddai angen “cyfranogiad gweithredol” pawb er mwyn gwneud i’r busnes ffynnu.
“Dw i’n credu, er nad oes modd bod yn bendant, fod dyfodol llewyrchus Dur Prydain o fewn cyrraedd, a bod mdd sicrhau llewyrch am flynyddoedd lawer i ddod.”
Er mai’r derbynnydd sydd a’r gair olaf ar ddyfodol y cwmni sydd wedi mynd i’r wal, mae’n addo y bydd Llywodraeth San Steffan yn dal i weithio “gyda pherchennog tymor hir, da, yr asedau pwysig yma” i weld sut y mae modd rhoi cymorth iddyn nhw wireddu eu gweledigaeth.
“Dw i’n falch i ddweud fod y derbynnydd swyddogol wedi dweud ei bod wedi cael ei galonogi gan lefel y diddordeb yn y posibilrwydd o brynu Dur Prydain,” meddai Greg Clark wedyn, “ac mae trafodaethau pellach yn digwydd gyda darpar brynwyr.
“Mae’r byd angen dur, ac mae dur Prydain ymysg y gorau yn y byd.”