Fe allai’r tywydd poeth sy’n sgubo trwy Ewrop achosi i rannau o eglwys gadeiriol Notre Dame ddymchwel, yn ôl rhybudd gan brif bensaer adeiladau hanesyddol Paris.

Mae sawl sensor sydd wedi’i osod yn yr adeilad sy’n dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif yn dangos fod y lle yn dirywio, meddai Philippe Villeneuve.

Mae’r waliau cerrig yn dal i fod yn wlyb ddiferol yn dilyn y tân mawr fu yno ar Ebrill 15 eleni, pryd y bu ymladdwyr yn aflu dwr at y muriau er mwyn diffodd y fflamau.

Y peryg ydi y gallai’r waliau sychu’n rhy gyflym yr wythnos hon, wrth i’r tymheredd godi yr wythnos hon.  Er bod y gwaith carreg yn sefydlog meddai’r pensaer, mae’r strwythur cyfan yn dal i fod yn fregus.

Mae arbenigwyr yn gweithio ar sefydlogi’r strwythur cyn y medr y gwaith o ail-adeiladu rhannau o’r gaderlan fynd rhagddo. .