Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi pleidleisio yn erbyn tri bil cyngresol sydd wedi’u hanelu i rwystro ei weinyddiaeth rhag osgoi’r Gyngres a gwerthu arfau gwerth biliynau I Sawdi Arabia.

Y mis diwethaf fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Mike Pompeo, bod bygythiadau o Iran yn rheswm dros ganiatáu gwerthiant arfau werth 8.1bn o ddoleri i ddau o ffrindiau’r Unol Daleithiau yng Ngwlff Persia, sy’n elynion i Iran.

Ond roedd ymgais Donald Trump ym mis Mai i werthu’r arfau gyda’r bwriad o osgoi’r adolygiad cyngresol wedi corddi gwleidyddion.

Daeth Democratiaid a’r Gweriniaethwyr at ei gilydd yn y Senedd i rwystro’r gwerthiant arfau – rhywbeth sydd yn mynd yn erbyn polisi tramor yr arlywydd yn ôl gwleidyddion.

Roedd y Tŷ Gwyn wedi dadlau y byddai atal y gwerthiant yn rhoi’r argraff nad yw’r Unol Daleithiau yn sefyll ochr yn ochr â’i bartneriaid a’i gynghreiriaid, yn enwedig ar adeg pan fo bygythiadau yn eu herbyn yn cynyddu.

Roedd y pecyn arfau yn cynnwys miloedd o arfau rhyfel, bomiau a bwledi eraill a chymorth cynnal a chadw I awyrennau.