Mae Boris Johnson yn cynnal cyfarfod ei gabinet newydd heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 25) ar ôl iddo ail-wampio tîm y cyn-Brif Weinidog, Theresa May.

O fewn oriau fod yn Rhif 10 ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 24), aeth y Prif Weinidog newydd ati’n syth i ddangos ei awdurdod gan roi cefnogwyr Brexit mewn rolau allweddol.

Prif amcan Boris Johnson yw sicrhau ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd erbyn Hydref 31.

Ymhlith rhai o’r apwyntiadau mwyaf dramatig, mae’r brexitiwr Jacob Rees-Mogg oedd yn reit broblemus i Theresa May, wedi dod mewn i’r Llywodraeth fel Arweinydd Tŷ’r Cyffredin.

Mae Cabinet Boris Johnson yn cynnwys Sajid Javid yn Ganghellor a Priti Patel yn Ysgrifennydd Cartref ymhlith amrywiaeth o Brexitiwyr amlwg ar y top.

Dominic Raab yw’r Ysgrifennydd Tramor a’r Prif Ysgrifennydd Gwladol – sy’n golygu mai yntau yw dirprwy brif weinidog Boris Johnson.

Fe fydd Alun Cairns yn parhau yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Yn dilyn vyfarfod y Cabinet, bydd Boris Johnson yn annerch Aelodau Seneddol am y tro cyntaf yn Brif Weinidog mewn datganiad yn Nhŷ’r cyffredin gan nodi ei gynlluniau ar gyfer y llywodraeth.