Fe lwyddodd Theresa May i ddrysu rhwng arweinydd Plaid Cymru a’r arweinydd yn San Steffan yn ystod ei haraith olaf yn Brif Weinidog – gan honni mai gwraig sy’n arwain y cenedlaetholwyr Cymreig.

Yn ystod un o’i hatebion yn ystod ei esiwn gwestiynau olaf yn Nhŷ’r Cyffredin, fe gyflawnodd y faux pas tra’n ateb cwestiwn gan arweinydd benywaidd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedd Jo Swinson wedi gofyn iddi pa gyngor fyddai ganddi i ferched ar sut i ddelio gyda’r dynion hynny sy’n meddwl y gallen nhw wneud joban well na menyw.
Dywedodd Theresa May fod ethol Mrs Swinson yn arweinydd ei phlaid yn dangos fod yn rhaid i bob merch fod yn driw iddi hi ei hun.
“Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol nawr ddynes yn eu harwain, yr SNP, y DUP, Plaid a’r Gwyrddion,” meddai Theresa May.

“Yr unig blaid yn y Tŷ sy’n gadael y lleill i lawr yw’r Blaid Lafur.”

Ymateb Plaid Cymru

“Mae’n bosib ei bod hi yn cyfeirio at Aelod Seneddol Meirionnydd Nant Conwy, Liz Saville Roberts, sef arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth golwg360.

Roedd o’n swnio ychydig bach yn rhyfedd, ac mae’n anodd gwybod be’n union oedd yn mynd ymlaen.

“Mae’n bosb ei bod hi yn meddwl am Liz fel yr un sydd wedi bod yn arwain ymateb Plaid Cymru i’r holl drafodaethau ynglyn â Brexit.”

Cafodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price ei benodi i’r swydd wedi iddo guro Leanne Wood, yr arweinydd blaenorol a Rhun ap Iorwerth, mewn ras am yr arweinyddiaeth ym mis Medi 2018.