Er nad ydi llewyrch dyfodol gweithrediadau Dur Prydain “yn bendant, mae o fewn gafael,” yn ôl Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DG, Greg Clark.

Tra’n ansicr ynglŷn â’i ddyfodol ei hun yn y Cabinet, dywedodd Mr Clark wrth ASau y byddai’n angen “cyfranogiad gweithredol” pawb.

Ychwanegodd: “Dwi’n credu, er nad yn bendant, fod dyfodol Dur Prydain o fewn cyrraedd a hynny ydi llewyrch gweithrediadau Dur Prydain am flynyddoedd lawer i ddod.”

Dywedodd Mr Clark er mai’r derbynnydd swyddogol sydd a’r gair olaf, “Dwi wedi bod yn weithgar fel mae aelodau yn gwybod yn ymweld â darpar brynwyr mewn nifer o rannau o’r byd i’w wneud o’n glir y bydd Llywodraeth y DG, o fewn ei bwerau cyfreithlon, yn gweithio gyda perchennog tymor hir da a’r asedau pwysig yma i weld sut gallan ni roi cymorth iddyn nhw wireddu eu gweledigaeth i’r cwmni”.

Daeth ei sylwadau mewn ymateb i gwestiwn brys gan AS Llafur Redcar Anna Turley ar werthiant Dur Prydain.

Dywedodd Mr Clark fod grŵp cefnogi Dur Prydain, y mae ef yn ei gadeirio, wedi cyfarfod wyth gwaith.

Meddai: “Mae’r hyder y mae’r grŵp cefnogi wedi ei adeiladu, ynghyd â indemniad gan y Llywodraeth i’r derbynnydd swyddogol, wedi caniatau i fasnachu i barhau. Mae hyn yn ddigynsail.”

Ychwanegodd: “Dwi’n falch i ddweud fod y derbynnydd swyddogol wedi dweud ei bod wedi cael ei galonogi gan lefel y diddordeb mewn prynu Dur Prydain ac mae ei reolwyr arbennig EY wrthi mewn trafodaethau pellach gyda darpar brynwyr.

Dywedodd: “Mae’r derbynnydd swyddogol wedi ei wneud o’n glir y bydd unrhyw werthiant potensial yn cymeryd amser i’w gyflawni.”

Meddai: “Mae’r byd angen dur ac mae dur Prydain ymysg y gorau yn y byd.”