Annibyniaeth yw’r “unig ffordd o gael gwared ar bobol fel Boris Johnson” o Gymru, yn ôl Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru.

Daw ei sylwadau ar ddiwrnod cyntaf Prif Weinidog newydd Prydain yn ei swydd, ac yntau’n olynu Theresa May ar ôl cael ei ddewis yn y ras rhyngddo fe a Jeremy Hunt.

Yn ôl Siôn Jobbins, mae “un arall o fois ysgolion posh Lloegr” wedi cael ei ethol, yn groes i ddymuniadau’r rhan fwyaf o Gymry.

“Dyma’r ugeinfed prif weinidog o Eton. Dyw Cymru, unwaith eto, ddim yn pleidleisio Tori ond r’yn ni’n cael y Torïaid yn ein rheoli ni,” meddai wrth golwg360.

‘Stopiwch chwarae gêm Prydain’

Ar drothwy rali fawr Pawb Dan Un Faner yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn (Gorffennaf 27), lle mae disgwyl i 3,000 o bobol ymgynnull tros annibyniaeth, mae Siôn Jobbins yn dweud ei bod yn hen bryd i Gymru “stopio chwarae gêm Prydain”.

“O ran Boris Johnson, y peth gorau all Yes Cymru ei ddweud yw i beidio â phleidleisio dros un o’r pleidiau Prydeinig, ond ymgyrchu dros annibyniaeth.

“Dyna’r unig ffordd o wneud yn siŵr nad yw Cymru byth yn cael ei thra-Arglwyddiaethu gan ddosbarth a chast a chlic sydd â dim syniad am Gymru, ac sy’n cyrraedd trwy ddweud celwydd ac apelio at reddfau mwyf bas pobol – ac mae Cymru’n well na hyn.

“Rhaid cael gwared ar Johnsons y byd yma a chael annibyniaeth.”

Dewis Boris Johnson yn hwb i’r mudiad annibyniaeth?

Yn ôl Siôn Jobbins, mae dewis Boris Johnson yn arweinydd y Ceidwadwyr ac yn brif weinidog yn hwb i’r mudiad annibyniaeth yng Nghymru.

“Dw i’n credu ei fod e. Unwaith eto, mae gyda ni rywun o ysgol breifat.Maen nhw’n edrych ar ôl ei gilydd, a does dim comeback yn yr ysgol breifat. Mae wastad Dadi neu ffrind i Dadi yn gallu helpu ti ma’s, a dyna sut mae’n gweithio.

“Mae pobol yn prynu i mewn i’r system yna. Os na fydd Johnson yna, bydd rhywun arall yna.

“Mae rhan fwyaf prif weinidogion Prydain wedi bod mewn ysgolion preifat. Mae pobol ddeallus i’w cael mewn ysgolion preifat, ond mae ’na ddosbarth o bobol sydd yn rheoli’r wlad a chriw bychan iawn o’r boblogaeth sy’n rheoli Prydain.

“Mae angen mynd oddi ar y treadmill ac oddi ar y cylch llygoden a mynd am annibyniaeth.”

Prif weinidog y Ceidwadwyr yn unig

Mae’n dadlau mai prif weinidog i’r Ceidwadwyr yn unig yw Boris Johnson, a’i fod yn chwarae “gêm” y Ceidwadwyr o weithredu “compassionate conservatism” er mwyn ceisio lledaenu eu hapêl.

“Ry’ch chi’n gweld hynny lle maen nhw’n dod ma’s â pholisïau lle mae’n swnio fel bo nhw’n gwario lot o arian.

“Ond pan ddaw i’r crunch, bydd e’n gwrando ar y bobol sy’n ei ariannu fe a’r Blaid Dorïaidd.

“Allwch chi ddim credu unrhyw beth mae Johnson yn dweud. Wnaeth e wastraffu £35m ar bont na adeiladwyd yn Llundain. Roedd e’n dweud ei fod e yn erbyn Heathrow.

“Sdim modd i unrhyw un gredu beth mae Johnson yn dweud. Mae e’n llwgrwobrwyo rhai pobol gyda’i blans nawr, ond mae’n amser i Gymru jyst tyfu lan.

“Yr unig ffordd i gael gwared ar bobol fel Boris Johnson yw annibyniaeth. Mae jyst rhaid i bobol stopio chwarae gêm Prydain a dod oddi ar y cylch llygoden a dechrau ymgyrchu am annibyniaeth.

“Gobeithio fydd pobol yn dod ma’s i Gaernarfon i wneud hynny.”