Mae tarw beison wedi twlcio merch fach naw mlwydd oed i’r awyr ym mharc cenedlaethol Yellowstone yn America, wrth i’r creadur fynd ar ei ben i ganol grwp o ryw hanner cant o ymwelwyr.

Roedd y grwp wedi bod yn sefyll o fewn ychydig droedfeddi i’r beison am tuag ugain munud, cyn iddo droi arnyn nhw.

Fe gafodd y ferch o Fflorida ei chludo i’r Old Faithful Lodge gan ei theulu er mwyn derbyn triniaeth gan weithwyr argyfwng. Fe gafodd ei symud yn ddiweddarach i glinig, ac mae bellach wedi cael ei hanfon gartref.

Dyw awdurdodau’r parc ddim wedi rhannu manylion ei hanafiadau.