Mae stormydd o fellt a tharanau yn nwyrain India wedi lladd o leia’ 20 o bobol.

Mae’r awdurdodau’n dweud fod y stormydd ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 23) wedi codi nifer y bobol sydd wedi’u lladd yn nhalaith Bihar ers dechrau’r tymor monsw i dros gant.

Ddydd Sul (Gorffennaf 21) fe gafdd 33 o bobol eu lladd gan fellt yn nhalaith Uttar Pradech yng ngogledd y wlad. Ffermwyr yn gweithio yn y caeau oedd y rhan fwya’ o’r rheiny.

Mae miliynau o bobol wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn ystod y deufis diwethaf, wrth i gartrefi a chnydau gael eu difetha yn nhaleithiau Bihar ac Assam.