Mae teulu dyn 54 oed a fu farw yn dilyn ffrwgwd yng nghanol dinas Abertawe wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw Mark Bloomfield ddydd Sadwrn yn dilyn digwyddiad ger tafarn ar Stryd Fawr y ddinas y dydd Iau blaenorol (Gorffennaf 18).

Roedd e’n weithiwr elusennol oedd yn hanu o Stratford Upon Avon yn Swydd Warwick, ac wedi bod yn weithgar ar draws y byd.

“Adeiladodd Mark Bloomfield waddol a fydd yn parhau drwy’r bywydau di-ri y daeth ar eu traws nhw,” meddai ei deulu.

“Yn gynorthwy-ydd arbennig i’r Fam Teresa yn Kolkata, roedd e’n gyfrannwr hanfodol i’w chenhadaeth hi a’r rhai yr oedd hi’n gofalu amdanyn nhw.

“Yn India, fe drefnodd e wersylloedd rhad ac am ddim ar gyfer llawdriniaethau cataract ac fe wnaeth e sefydlu ysgolion a roddodd fynediad prin i ferched i addysg.

“Yn Affrica, fe wnaeth e helpu i gynnal anifeiliaid oedd yn cael eu hela drwy gyflwyno awyrennau ysgafn i frwydr yn erbyn bygythiad helwyr.

“Fe fydd e’n cael ei gofio am hyn oll a rhagor.”

Ymchwiliad

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r ffrwgwd, ac mae dyn 61 oed wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae dyn 21 oed a dynes 50 oed wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn nhafarn y Full Moon ar y Stryd Fawr yn Abertawe rhwng 11.30yb a 3.15yp ar ddydd Iau, Gorffennaf 18 ac a welodd y ffrwgwd.

Maen nhw hefyd am glywed gan unrhyw un oedd ar y Stryd Fawr y diwrnod hwnnw rhwng 2 o’r gloch a 3.15yp.