Mae gweithiwr cymdeithasol o Wrecsam wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol oherwydd ei chamymddygiad a’I diffyg cymwysedd.
Roedd Susan West yn gyd-berchennog ac yn berson cofrestredig ym Meithrinfa ddydd ac ysgol feithrin breifat Scallywags yn Wrecsam adeg digwyddiad ym mis Hydref 2016.
Yn ystod gwrandawiad gan Ogal Cymdeithasol Cymru, cyfaddefodd Susan West iddi fethu ag atgyfeirio honiad diogelu a oedd yn ymwneud â phlentyn ac uwch aelod o staff at Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o fewn 24 awr fel sy’n ofynnol o dan y gyfraith, gan roi diogelwch plant y feithrinfa yn y fantol.
Ar ôl ystyried cyfaddefiadau Susan West a’r dystiolaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y pwyllgor fod ei chamymddygiad a’i diffyg cymhwysedd yn amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.
“Cawsom yr argraff fod eich dealltwriaeth o faterion diogelu yn wael iawn, yn cynnwys y camau y mae’n rhaid eu cymryd yn wyneb mater diogelu,” meddai cadeirydd y pwyllgor wrthi.
“Ni allwn fod yn sicr na fyddech yn gwneud penderfyniadau gwahanol yn y dyfodol. Mae hyn yn gwneud i ni feddwl eich bod yn peri risg bresennol i unigolion sy’n defnyddio eich gwasanaethau.”
Y gosb
Penderfynodd y pwyllgor dynnu Susan West oddi ar y Gofrestr, gan ddweud wrthi: “Rydyn ni’n cydnabod bod y gosb hon yn un anghyffredin mewn achos sy’n cynnwys un methiant i hysbysu ynghylch mater diogelu.
“Fodd bynnag, rydyn ni wedi dod i’r casgliad hwn oherwydd eich bod chi wedi dangos yn gyson nad ydych chi’n deall yn llwyr effaith ddifrifol eich camau, a chanlyniadau’r camau hynny.
“Rydyn ni o’r farn nad oes unrhyw ffordd arall o ddiogelu’r cyhoedd, ac y byddai hyder pobol yn y proffesiwn yn cael ei danseilio’n ddifrifol pe baem yn caniatáu i chi aros ar y Gofrestr pan mae eich gwybodaeth am faterion diogelu mor wael.”
Cynhaliwyd y gwrandawiad tri diwrnod yr wythnos diwethaf yng Ngwesty Beaufort Park, yr Wyddgrug.