Fe ddaeth i’r amlwg fod yr actor Kevin Spacey wedi cael ei holi gan Heddlu Llundain ym mis Mai am gyfres o droseddau rhyw honedig.
Teithiodd yr heddlu i’r Unol Daleithiau i’w holi dan rybudd.
Mae Variety, y wefan adloniant Americanaidd, yn dweud iddo gytuno i gael ei gyfweld.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod dyn di-enw wedi cael ei gyfweld dan rybudd ganddyn nhw am honiadau gan chwech o bobol.