Mae’r pyndit rasio ceffylau eiconig John McCririck wedi marw yn 79.
Roedd sawl un yn ei alw’n “Big Mac” ac am flynyddoedd ef oedd un o ffigyrau mwyaf adnabyddus ei faes.
Ag yntau’n gymeriad unigryw – yn ei het deerstalker, a gyda’i flewiach a’i sigâr – daeth yn seren deledu ar raglenni gan gynnwys Big Brother yn ddiweddarach yn ei yrfa.
Am flynyddoedd lawer roedd yn wyneb cyfarwydd ar raglenni rasio ceffylau Channel 4, a threuliodd pedwar degawd o flaen y camera.