Dynes 81 oed yw’r hynaf erioed i seiclo’r holl ffordd o Land’s End i John O’Groats, cyfanswm o 960 o filltiroedd.

Cwblhaodd Mavis Paterson o Stranraer yn yr Alban yr her mewn 23 diwrnod.

Dechreuodd hi’r daith ar Fai 30, a chyrhaeddodd hi ben ei thaith ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 22).

Roedd hi’n seiclo er cof am ei thri phlentyn, fu farw o fewn pedair blynedd o’i gilydd, a phob un yn eu 40au.

Cododd hi fwy na £50,000 at elusen ganser Macmillan wrth gwblhau’r her, er mai £20,000 yn unig oedd ei nod.

Daeth cadarnhad cyn iddi fynd ar ei beic mai hi fyddai’r hynaf erioed i gwblhau’r daith yn llwyddiannus pe bai’n llwyddo i gyrraedd John O’Groats.

Cwblhaodd hi’r her gyda’i ffrind, Heather Curley, sy’n 55 oed.

‘Galar’

Dywed Mavis Paterson mai galar am ei phlant oedd wedi ei gyrru i gwblhau’r her.

Bu farw ei mab Sandy o drawiad ar y galon yn 2012.

Y flwyddyn ganlynol, collodd hi ei merch Katie, oedd wedi bod yn dioddef o niwmonia.

Bu farw ei mab Bob mewn damwain yn 2016.

Bu’n cefnogi elusen Macmillan ers colli ei mam a’i chwaer i ganser.

Y llynedd, seiclodd hi am 24 awr a chyn hynny, seiclodd hi drwy Ganada i godi arian at Macmillan.