Mae dyn 44 oed wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn Swydd Northampton.
Bu farw’r dyn yn dilyn digwyddiad ym mhentref Little Harrowden ger Wellingborough.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty yn Kettering a’i drosglwyddo i Coventry, lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae pedwar o bobol – tri dyn a dynes, wedi cael eu harestio yn dilyn y digwyddiad am oddeutu 8.30 nos Wener (Mehefin 21).
Mae’r pedwar yn cael eu holi yn y ddalfa.