Mae dynes 25 oed wedi cael ei harestio ar ôl iddi orfodi awyren i ddychwelyd i faes awyr Stansted.
Bu’n rhaid i ddwy awyren yr Awyrlu gludo’r awyren yn ei hôl.
Roedd yr awyren yn mynd am faes awyr Dalaman yn Nhwrci ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 22) cyn i’r ddynes gael ei harestio ar amheuaeth o ddau ymosodiad ac o beryglu’r awyren.
Ffoniodd nifer o bobol yn Essex yr heddlu ar ôl clywed “ffrwydrad” yn yr awyr a gafodd ei achosi gan awyrennau’r Awyrlu.
Dywedodd un dyn fod y glec “bron â chwythu ffenest allan” o’i gartref.