Mae 11 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i awyren blymio i’r ddaear yn Hawaii.
Does neb wedi goroesi’r digwyddiad ar lannau Oahu North Shore, yn ôl yr awdurdodau.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ger maes awyr Dillingham, ac mae’r ffordd ger y maes awyr wedi’i chau.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a oedd yr awyren yn glanio neu’n gadael y maes awyr ar y pryd.
Yn wreiddiol, roedd yr awdurdodau’n credu bod naw o bobol ar yr awyren, ond cafodd y nifer ei addasu’n ddiweddarach.