Mae Heddlu’r Met wedi cadarnhau mai’r gŵr 34 oed a gafodd ei arestio yn Congleton yn ystod oriau mân dydd Llun (Mai 6) yw Joseph McCann.

Roedd apêl wedi’i chyhoeddi yn dilyn treisio a herwgipio dwy ddynes yn Llundain. Mae Jospeh McCann yn cael ei holi mewn cysylltiad â throseddau eraill.

“Fe allwn ni gadarnhau ei fod yn cael ei ymchwilio yn ymwneud ag achosion yn Sir Caer, Manceinion a Sir Gaerhirfryn, yn ogystal â rhai yn Llundain a Swydd Hertford,” meddai llefarydd ar ran Scotland Yard.

“Mae ditectifs yn dal i ymchwilio, ac fe fydd yna gydweithio gyda heddluoedd eraill.”