Mae Nigel Farage yn annog cefnogwyr ei Brexit Party i ymuno yn y “frwydr” wrth iddo fynd ar daith o gwmpas gwledydd Prydain cyn etholiadau Ewrop.
Fe ddaeth cannoedd o gefnogwyr at ei gilydd i rali yng Nghaer ddoe (dydd Llun, Mai 6) i glywed Nigel Farage yn dweud mai “nid mater o chwith neu dde ydi hun…
“Yn hytrach, mae’n ymwneud â’r hyn sy’n iawn neu’n anghywir… mae ynglŷn ag ymladd yn ôl.
“Mae’r hyn y mae Theresa May wedi’i wneud i ni, yn gywilydd cenedlaethol,” meddai Nigel Farage wedyn.