Fe fydd trafodaetha ar rannu pwerau yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu cynnal, mewn ymgais i ail-sefydlu llywodraeth yno.
Mae llywodraethau Prydain ac Iwerddon wedi bod yn ceisio datrys y sefyllfa y mae hi ynddi ar hyn o bryd, ble nad oes llywodraeth yn gweithredu yn iawn ers dwy flynedd.
Mae arweinwyr y pum plaid wedi cael eu gwahodd i Stormont House – safle Llywodraeth gwledydd Prydain yn Belffast – heddiw (dydd Mawrth, Mai 7) am gyfarfod.
Penderfynu ar sut fydd y broses o drafod yn cael ei redeg fyddan nhw, yn hytrach na gwneud penderfyniadau swyddogol.
Daw’r ymdrechion i atgyfodi’r sefydliadau datganoledig yn dilyn llofruddiaeth y newyddiadurwr Lyra McKee yn Llundain y mis diwethaf.
Mae gweriniaethwyr y New IRA wedi cymryd y cyfrifoldeb.