Mae merch ifanc a laddwyd yn nhref Calne yn Wiltshire wedi cael ei henwi.

Dywed yr heddlu fod Ellie Gould, 17, wedi marw ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i gyfeiriad yn Springfield Drive am 3.15yp ddydd Gwener (Mai 3).

Bu Heddlu Wiltshire yn holi bachgen 17-mlwydd-oed yn nhref gyfagos Chippenham yn hwyrach yn y prynhawn.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Ellie Gould, disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Hardenhuish, ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Dywed llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn parhau ä’u hymholiadau i geisio sefydlu amgylchiadau’r farwolaeth.