Mae aelod o’r Cynulliad wedi apelio i’r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt i geisio achub bywyd ffoadur Cwrdaidd sy ar streic newyn.
Dechreuodd Imam Sis, 32, ar ei streic lwgu, 139 diwrnod yn ôl – ac mae o nawr yn agos iawn at farw.
Mewn ymdrech i geisio arbed ei fywyd, mae Delyth Jewell, AC Dwyrain De Cymru, wedi ymbilio ar i Mr Hunt gefnogi Mr Sis.
Mewn erthygl yn y New Statesman dywed Ms Jewell fod Mr Sis yn un o gannoedd o bobol ledled y byd sy ar streic newyn mewn protest yn erbyn camdriniaeth Twrci tuag at yr arweinydd Cwrdaidd Öcalan. Mae o wedi cael ei gadw mewn cell ar ei ben ei hun ers 1999 – heb ddim hawl i gael cyfreithiwr i’w gynrychioli.
Meddai Ms Jewell: “Ar ddiwedd y llynedd, roedd fy nghyfaill Imam wedi cael ei ysbrydoli i gymeryd rhan yn y streic newyn gan AS Twrcaidd, Leyla Guven, sy nawr heb fwyta ers 177 diwrnod. Ers mis Rhagfyr, mae Imam wedi dilyn ei esiampl ac wedi byw ar ddiodydd ac atchwanegiadau fitamin yn unig.”
Dywedodd Ms Jewell fod Mr Sis eisiau “dathlu” bywyd yn hytrach na marw a’i fod eisiau tynnu sylw’r byd i’r camdriniaeth o ŵr y mae yn ei edmygu gymaint.
Fis Mawrth fe roddodd y Senedd gefnogaeth i safiad Mr Sis a chynnig gan Blaid Cymru.
Dywedodd Ms Jewell: “Ddydd Iau diwethaf, cefais wybod fod cyflwr Iman wedi troi’n ddifrifol a’i fod wedi peidio derbyn ymwelwyr. Roeddwn yn gwybod fod yn rhaid imi weithredu’n gyflym, ac felly gofynnais i Lywodraeth Cymru gysylltu â Swyddfa Dramor y Deyrnas Gyfunol.”
Cafodd llythyr ei anfon at Jeremy Hunt y bore wedyn.
Cred Ms Jewell os bydde Mr Hunt yn ymyrryd yn bersonol, fe allai ddod a streic newyn Mr Sis i ben.
Meddai: “Mae hwn yn wirioneddol yn fater o fywyd a marwolaeth. Rwy’n erfyn ar Jeremy Hunt i roi cymorth inni fedru ymchwyddo llais Iman.”