Mae teulu plismon a ennillodd apêl yn erbyn dyfarniad camymddwyn difrifol am afael ym mronnau cydweithraig mewn parti 12 mlynedd yn ôl wedi beirniadu’r heddlu.

Cyhuddwyd Daniel Doughty, o Gaernarfon, oedd yn swyddog cefnogi cymuned yr heddlu (PCSO), o fod yn “feddw ac anaeddfed” pan afaelodd ym mronnau ei gydweithwraig mewn parti yn Wetherspoon’s, Llandudno yn 2007.

Er fod y digwyddiad yn destun trafod ar y pryd, yn ôl datganiadau a roddwyd i’r panel apêl, nid oedd swyddogion yr heddlu o’r farn ei fod yn deilwng sylw ar y pryd.

Ond pan wnaethpwyd cwyn 10 mlynedd wedi’r digwyddiad, fe lawnsiwyd ymchwiliad gan Heddlu’r Gogledd a chafwyd PC Doughty yn euog o gamymddwyn difrifol.

Dywedodd Huw Davies bargyfreithiwr PC Doughty ei fod yn 21 oed adeg y digwyddiad ond nawr yn briod ac yn dad i dri o blant.

Yn y gwrandawiad y llynedd, cyfaddefodd PC Doughty fod yna gamymddwyn wedi digwydd ond nid camymddwyn difrifol.

Roedd chwythwr chwiban wedi mynd â’r gwyn at adran safonau proffesiynol Heddlu’r Gogledd.

Dywedodd PC Doughty ei fod wedi ymddiheuro i’r ddynes ar y pryd a’i bod hithau wedi ei dderbyn. Nid yw wedi cael ei henwi.

Caniataodd y Tribiwnlys yr apêl am fod yr ymddygiad a honnwyd wedi digwydd cyn penodi’r swyddog yn gwnstabl heddlu, nid oedd euogfarn droseddol wedi deillio ohono yn ystod ei wasanaeth ac felly nid oedd wedi torri rheolau ymddygiad yr heddlu.

Cafodd y dyfarniad o gamymddwyn difrifol yn erbyn PC Doughty ei  ddileu o’i gofnod ar unwaith

Dywedodd Peter – tad PC Doughty – wrth Golwg360: “Yn amlwg mae’r teulu yn hapus gyda chanlyniad y Tribiwnlys Apêl. Fodd bynnag rydym wedi’n gwylltio fod ein mab wedi gorfod dioddef triniaeth mor ofnadwy gan Heddlu Gogledd Cymru, sydd wedi achosi poendod inni gyd. Ni ddyle’r achos yma fod wedi cyrraedd gwrandawiad camymddwyn cyhoeddus yn y lle cyntaf, gan nad oedd ein mab yn swyddog gyda’r heddlu ar y pryd. Cafodd achos tebyg yn Lloegr ei daflu allan.”

Dywedodd Mr Doughty fod un o chwiorydd Daniel, Nesta, wedi cael ei thrin yn annheg yn y gwrandawiad gwreiddiol gan na gynnigwyd iddi roi ei thystiolaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a’i bod wedi cael ei “bychanu” wrth gyfieithu ei thystiolaeth o’r Gymraeg i’r Saesneg pan ddywedodd bargyfreithiwr yr heddlu Mark Ley-Morgan: “Come now, it’s not that difficult, you speak very good English.”

Mae Mr Doughty a’i wraig Morfudd nawr wedi cwyno wrth Heddlu’r Gogledd am rannau o’r dystiolaeth a roddwyd gerbron y gwrandawiad gwreiddiol

Meddai: “Roedd fy mab wastad wedi dweud ei fod wedi ymddiheuro i’r dioddefwraig am y digwyddiad a bod hi wedi ei dderbyn a’u bod wedi parhau i fod ar dermau cyfeillgar.”

Honnodd hefyd fod Heddlu’r wedi cyhoeddi datganiad i’r Wasg fis Hydref diwethaf oedd yn “annheg” a bod Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cadarnhau hynny – ond fod y teulu dal yn disgwyl ymddiheuriad gan Heddlu’r Gogledd.

Mewn ymateb, dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Dan Tipton o Heddlu’r Gogledd: “Mae nifer o’r materion y mae Mr Doughty yn cyfeirio atyn nhw wedi, neu yn dal i fod yn cael eu hymchwilio gan ein Adran Safonau Proffesiynol, neu eu bod wedi cael eu datrys gyda goruchwyliaeth yr IOPC. Fe fyddai, felly, yn amhriodol i roi sylw pellach ar y pryd.”