Mae dyn a dynes wedi cael eu harestio wrth i’r heddlu ymchwilio i lun a gafodd ei dynnu o gorff y pêl-droediwr, Emiliano Sala, mewn marwdy.
Cafodd y ddynes, 48, a’r dyn, 62, o Wiltshire eu harestio ym mis Chwefror ar amheuaeth o gael mynediad anghyfreithlon i ddeunydd cyfrifiadurol.
Mae’n debyg bod y llun, a gafodd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dangos y cyn-ymosodwr o’r Ariannin mewn marwdy yn Bournemouth, yn fuan wedi iddo farw mewn damwain awyren.
Yn ôl yr heddlu, does dim tystiolaeth bod unrhyw un wedi torri i mewn i’r marwdy, nac awgrym bod aelod o staff wedi bod yn rhan o’r drosedd.
Mae dogfen wedi cael ei hanfon at Wasanaeth Erlyn y Goron er mwyn penderfynu pa gyhuddiadau a fydd yn cael eu dwyn yn erbyn y ddau a gafodd eu harestio ar Chwefror 18.
Y cefndir
Bu farw Emiliano Sala, 28, a oedd newydd arwyddo cytundeb gyda’r Adar Gleision, ar ôl i’r awyren yr oedd yn teithio arni ddiflannu dros y Sianel ger ynys Guernsey ar Ionawr 21.
Cafodd ei gorff ei ganfod ar waelod y môr ar Chwefror 6, ond dyw achubwyr ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i gorff y peilot o Swydd Lincoln, David Ibbotson, 59, hyd yn hyn.
Bu farw tad y pêl-droediwr, Horacia Sala, 58, yn ei gartref yn Progreso, yr Ariannin, ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.