Mae banc stryd fawr, Santander, wedi cyhoeddi 35% o ostyngiad yn ei elw ar gyfer chwarter cyntaf 2019 – ac mae’n rhoi’r bai ar yr ansicrwydd ynghylch Brexit a’r gystadleuaeth yn y farchnad morgeisi.
Mae’r banc, sy’n eiddo i gwmni yn Sbaen, yn nodi elw cyn-treth o £270m ar gyfer tri mis cyntaf 2019, sy’n cymharu â £414m ar gyfer yr un cyfnod y llynedd.
Mae’r grŵp yn dweud fod yr economi ehangach wedi cael swadan oherwydd pryderon Brexit, yn ogystal â gwasgfa yn y farchnad morgeisi.
Fe ddaw’r cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 39) wedi i Santander gyhoeddi yn gynharach eleni ei fod yn bwriadu cau 140 o ganghennau ledled gwledydd Prydain, gan roi 1,200 o swyddi yn y fantol.