Mae fersiwn o arwydd ‘Cofiwch Dryweryn’ bellach wedi croesi’r Môr Iwerydd, gan ymddangos ar wal mewn tafarn yn Chicago.
Mae cyfres o fideos sydd wedi eu rhannu ar-lein gan Gymdeithas Gymraeg Tafia Chicago yn dangos criw o bobol yn paentio’r arwydd enwog ar wal tafarn y Pleasant House.
Dyma’r fersiwn diweddaraf o’r arwydd enwog sydd wedi cael ei baentio mewn lleoliadau ledled Cymru a’r byd ar ôl i’r un gwreiddiol ar y wal ger Llanrhystud, Ceredigion, gael ei ddifrodi yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yn ôl Sion Roberts, un o’r paentwyr yn Chicago, mae’n gobeithio y bydd ymwelwyr â’r dafarn yn cael eu “hysbrydoli” gan yr arwydd ac yn “dysgu mwy am Gymru a’i diwylliant”.
Behind the scenes… #CofiwchDryweryn in Chicago! Doing a spot of filming for ITV. Massive Diolch to Sion Roberts for stepping up to do this piece.
Posted by The Chicago Tafia Welsh Society on Sunday, 28 April 2019