Mae Roger Lewis wedi cael ei benodi’n Llywydd Amgueddfa Cymru.

Mewn cyfarfod heddiw (dydd Llun, Ebrill 29) aeth y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, a Chyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa Genedlaethol, David Anderson, ati i gwblhau’r penodiad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Fe fydd Roger Lewis yn ymuno ag Amgueddfa Cymru yn dilyn gyrfa ym maes cerddoriaeth, y cyfryngau, chwaraeon, y celfyddydau a busnes.

Dros y 40 blynedd diwethaf mae’r llywydd newydd wedi dal swyddi blaenllaw o fewn y BBC, ITV, Classic FM, EMI, Decca ac Undeb Rygbi Cymru.

 “Anrhydedd”

“Mae hyn yn anrhydedd fawr ac rwy’n ymwybodol iawn o gyfrifoldeb mawr y swydd hon,” meddai Roger Lewis

“Rwy’n teimlo’n gryf iawn am y lle arbennig sydd gan ein sefydliadau diwylliannol mawr ym mywydau pobol Cymru.

“Mae ganddyn nhw swyddogaeth unigryw i’n hysbrydoli a’n hannog i herio ein canfyddiadau o’r byd o’n hamgylch er lles pawb. Gallant fod yn ddull o ddod â’n cymunedau at ei gilydd.”

Roger Lewis fydd cadeirydd newydd Amgueddfa Cymru, ac felly ef fydd yn gyfrifol am Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Mae ymddiriedolwyr newydd wedi cael eu hapwyntio hefyd – Maria Battle, Gwyneth Hayward, Robert Humphreys, Dr Madeleine Havard a’r trysorydd, Hywel John.

Fe fu 1.89 miliwn yn ymweld â’r amgueddfeydd yn 2018 a 2019 – cynnydd o 6.5% o gymharu â’r flwyddyn gynt.