Mae dyn 18 oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu ar stryd yng ngogledd ddwyrain Llundain.

Cafodd heddlu’r Met eu galw am 7.19yh neithiwr (nos Fercher, Ebrill 10) i stryd yn Hackeny.

Mae’r dyn yn dioddef o anafiadau ar ôl cael ei drywanu â chyllell, ac nid oes gwybodaeth ynglŷn â’i gyflwr.

Mae dau ddyn yn eu 20au wedi cael eu harestio o dan amheuaeth o anafu ac yn cael eu cadw yn y ddalfa ar hyn o bryd, meddai Scotland Yard.

Does dim arwydd fod y nifer troseddau cyllell yn Llundain yn arafu. Mae 21 ohonyn nhw wedi’u cofnodi ers dechrau’r flwyddyn.