Mae’r bythau pleidleisio wedi agor yn rownd gyntaf etholiad cyffredinol India.

Heddiw (dydd Iau, Ebrill 11) mae pobol India yn dechrau bwrw eu pleidlais  mewn 18 o daleithiau, gan gynnwys dau o Diriogaethau’r Undeb.

Dyma yw diwrnod cyntaf o etholiad saith cam sy’n ymestyn dros chwe wythnos yn y wlad o 1.3 biliwn o bobol.

Mae’r etholiad – sef yr ymarfer ddemocrataidd fwyaf yn y byd – yn cael ei weld fel refferendwm ar y Prif Weinidog, Narendra Modi a’i blaid Bharatiya Janata.

Daeth Narendra  Modi i rym yn 2014 a lleisiodd y blaid ei gwreiddiau cenedlaetholgar Hindŵaidd cyn yr etholiadau, gan leoli ei hun ar flaen y gad yn erbyn bygythiad Pacistan.

Gyda miliwn o orsafoedd pleidleisio ledled y wlad, mae tua 900 miliwn o bobol yn gymwys i fwrw eu pleidlais. Fe fydden nhw yn penderfynu ar 543 o seddi yn nhŷ isaf Senedd India.

Bydd y pleidleisio yn dod i ben ar Fai 19 ac yn cael eu cyfrif erbyn Mai 23.