Mae glanhawr ffenestri wedi cael ei garcharu am bum mlynedd am ddwyn oddi ar ddynes 86 oed sydd â dementia.

Cafodd Mathew Benjamin Lewis, 33, ddedfryd o bum mlynedd dan glo ar ddiwedd achos yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o fwrgleriaeth.

Cafodd ei ddal gan gamerâu cylch cyfyng teulu’r ddynes, ar ôl iddyn nhw amau pam ei fod yn ymweld â hi.

Yn sgil ei chyflwr, doedd gan y ddynes ddim syniad am amser nac arian.

Flwyddyn cyn ei arestio, cafodd Mathew Lewis orchymyn gan deulu’r ddynes i gadw draw gan mai unwaith y mis yr oedd e fod i ymweld â hi, a gofyn i gymydog am yr arian.

Cafodd ei weld yn ymweld â hi’n aml, ac fe gytunodd yn y diwedd i gadw draw.

Cysylltodd y teulu â’r heddlu, ac fe gafodd ei arestio ar ôl dechrau ymweld â hi eto, ond fe wadodd iddo fod yno.