Mae llys teulu yng ngogledd-orllewin Lloegr wedi dyfarnu na ddylai ceisiwr lloches o Affrica a gymharodd ei hun i hunanfomiwr, gael gweld ei fab.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn dweud fod y dyn, sy’n wynebu cael ei anfon o’r Deyrnas Unedig, wedi sôn am “gymryd y plentyn” tra’n sôn am hunanfomio.

Roedd wedi dweud wrth y barnwr hefyd, “Pan fydda’ i’n penderfynu lladd fy hun, fydda’ i ddim yn mynd ar fy mhen fy hun”, cyn dweud y byddai’n “creu newyddion ar draws y byd”.

Mae’r barnwr wedi dweud na fydd y plentyn blwydd oed, sy’n byw gyda’i fam, yn cael ei enwi mewn adroddiadau, ac na fydd yr ardal lle maen nhw’n byw chwaith yn cael eu henwi’n gyhoeddus.

Mae’r dyn yn hanu o’r Congo.