Mae tân wedi dod â chanol tref Maidenhead i stop, ac mae strydoedd wedi’u cau tra bod y gwasanaethau brys yn delio â’r digwyddiad.
Fe gafodd y frigâd dân ei galw i Queens Street, Maidenhead toc cyn 2yb heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 12), cyn bod cyfanswm o ddeuddeg injan wedi’u hanfon yno i ymladd y fflamau.
Mae’r gwasanaeth tân wedi cadarnhau ar Twitter bod gwyntoedd cryfion wedi gwneud y sefyllfa yn waeth, a’u bod yn annog pobol i gadw draw o’r ardal.
Mae Heddlu Thames Valley wedi cau’r rhan fwya’ o strydoedd canol y dref
Does neb wedi’u hanafu yn y digwyddiad, ac mae’r gwasanaethau brys yn cydweithio ar hyn o bryd er mwyn ceisio penderfynu ar achos y tân.