Mae arlywydd Algeria yn dweud ei fod yn y broses o ffurfio llywodraeth newydd, ynghyd â chorff arbennig a fydd yn creu cyfansoddiad newydd ar gyfer y wlad.

Fe ddaw’r newidiadau yn wyneb protestiadau torfol diweddar.

Mae’r arlywydd Abdelaziz Bouteflika’ yn gobeithio y bydd ei gyhoeddiad dramatig yn lleddfu’r sefyllfa wleidyddol yn Algeria. Mae hefyd wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll etholiad eto, nac yn ceisio ennill pumed tymor yn arlywydd.

Mae hefyd wedi cyhoeddi y bydd yr eholiadau a oedd wedi’u trefnu ar gyfer Ebrill 18 eleni, wedi’u gohirio.

Mae’r arlywydd yn 82 oed, ac mae wedi dweud mai rhesymau iechyd sydd wrth wraidd ei benderfyniad i beidio sefyll eto.