Mae Gogledd Corea yn defnyddio’r posibilrwydd y gallai lansio taflegryn newydd, er mwyn ceisio sicrhau mwy o drafodaethau heddwch gydag America.

Mae gwefannau yn ur Unol Daleithiau wedi cyhoeddi lluniau lloeren sy’n awgrymu fod Gogledd Corea yn paratoi at lansiad ar safle a gafodd ei ddat-gymalu y llynedd, ar ddechrau’r trafodaethau gydag America.

Mae lluniau lloeren eraill yn dangos mwy o brysurdeb a thipyn o fynd a dod mewn rhagor o safleoedd lle mae rocedi ac arfau yn cael eu cynhyrchu.

Mae arbenigwyr yn dweud fod hyn yn awgrymu’n gryf fod Gogledd Corea yn adeiladu roced newydd yn dilyn cyfarfod aflwyddiannus Kim Jong Un a Donald Trump yn Hanoi ddiwedd Chwefror.

Mae Washington a Pyongyang yn cyhuddo’r naill a’r llall am fethiant y trafodaethau.