Mae milwyr Syria, gyda chefnogaeth lluoedd America, wedi ennill mwy o dir yn yr ardal olaf lle mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn dal mewn grym.

Yn ôl adroddiadau, maen nhw bellach yn ymladd gwrthryfelwyr sy’n cuddio mewn twneli dan-ddaear.

Fe ddechreuodd y frwydr ddiweddaraf hon nos Sul (Mawrth 10) gyda ffrwydradau i’w clywed a mwg yn codi i’r awyr uwchben Baghouz ar lan afon Ewffrates yn nwyrain Syria.

Y gred ydi fod yna tua 500 o ymladdwyr IS yn weddill yn yr ardal, ynghyd â thua 3,000 o bobol gyffredin sy’n cynnwys menywod a phlant.

Mae’r ardal hefyd wedi’i phupuro â bomiau tir a thrapiau.