Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi adfywio ei ymdrech i godi wal ar y ffin â Mecsico, gan baratoi cyllideb newydd sy’n gofyn am $8.6bn (£6.6bn) ar gyfer y gwaith.

Mae’r gyllideb newydd hefyd yn awgrymu torri’n ôl ar rai prosiectau gartref er mwyn balansio’r llyfrau. Mae’n debyg o danio dadl fawr.

Dim ond mater o wythnosau sydd ers i ddadl flaenorol, a olygodd fod rhannau o lywodraeth wedi cau i lawr, gael ei datrys.

Ond mae cynllun Donald Trump ar gyfer blwyddyn ariannol 2020, yn brawf ei fod yn benderfynol o fynd ben-ben unwaith eto gyda’r Gynghres ar y mater o godi wal.

Mae’n dweud fod y sefyllfa ar y ffin rhwng America a Mecsico yn “dirywio’n ddyddiol”.