Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi rhoi sêl ei bendith i’r syniad y gallai gwledydd Ewrop weithio gyda’i gilydd i ddatblygu llong i gario awyrennau rhyfel.

Fe gafodd y syniad ei gynnig gan arweinydd ei phlaid, Annegret Kramp-Karrenbauer, ym mis Rhagfyr.

Ond fe ddaeth ymateb diweddaraf Angela Merkel wedi i arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, fwrw’r cwch i’r dwr dros y Sul wrth sôn am ddiwygio’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Ffrainc a’r Almaen eisoes yn cydweithio ar ddatblygu awyrennau rhyfel.

Yn ôl Angela Merkel, y cam nesaf allai fod i adeiladu llong i gario’r awyrennau, fel rhan o gyfrifoldeb yr Undeb Ewropeaidd yn plismona a chynnal diogelwch ledled y byd.