“Mae’n bwysig bod y sector twristiaeth leol yn barod i elwa,” meddai trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wrth iddyn nhw gynnig cynghorion i fusnesau a sefydliadau yn Nyffryn Conwy cyn mis Awst.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal Llanrwst eleni, a hynny am y tro cyntaf ers 1989.

Mae’r trefnwyr yn disgwyl y bydd tua 150,000 o bobol yn ymweld â’r ardal ym mis Awst, gan greu effaith economaidd o £6-8m yn ystod wythnos y Brifwyl.

Yn rhan o’r paratoadau mae cyfarfod arbennig yng Nghonwy lle bydd modd i fusnesau a sefydliadau  holi’r trefnwyr am wahanol syniadau a gofyn am gyngor ynglŷn â sut i ddenu eisteddfodwyr i wahanol rannau o’r sir.

Bydd y cyfarfod hefyd yn pwysleisio ar bwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg, meddai’r trefnwyr ymhellach.

“Cydweithio”

“Mae ymchwil yr Eisteddfod wedi dangos bod ein hymwelwyr, ac yn arbennig ein carafanwyr, yn mwynhau crwydro’r ardal leol yn ystod yr wythnos yn ogystal â mynd i’r maes,” meddai Alwyn Roberts, Pennaeth Gweithredu Cymunedol yr Eisteddfod.

“Felly mae’n bwysig bod y sector twristiaeth leol yn barod i elwa o hyn a’n bod yn cydweithio er mwyn sicrhau bod y cynnyrch a’r cyfleoedd sydd ar gael yn taro deuddeg.

“Mae defnyddio’r Gymraeg yn rhan bwysig o apelio at ein hymwelwyr. Mae Eisteddfodwyr yn mwynhau ymweld â rhan wahanol o Gymru yn flynyddol, a chael blas ar yr iaith yn yr ardal.

“O gynnig gwasanaeth cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg i gyfarch ac annog staff a gwirfoddolwyr i gael blas ar yr iaith, mae hyn yn fodd i apelio at ymwelwyr o bob rhan o’r wlad.

“Bydd y sesiwn yn cynnig syniadau, cyngor a chymorth ar sut i ddefnyddio’r iaith i gyrraedd ein hymwelwyr.”

Bydd y cyflwyniad yn cael ei gynnal yn Neuadd Caer Rhun, Conwy, ar Fawrth 27.