Cafodd grŵp o ddynion sy’n hanu o Iran eu hachub oddi ar y Sianel ddoe (dydd Mercher, Chwefror 27), wedi i’r ymdrechion gan ffoaduriaid i groesi rhwng gwledydd Prydain a Ffrainc barhau am y pedwerydd diwrnod yn olynol.
Cafodd criwiau achub eu galw am tua 10:30yb ar ôl i gwch bach gael ei weld oddi ar arfordir Swydd Gaint.
Roedd y cwch yn cynnwys naw dyn, gyda phob un ohonyn nhw’n fyw ac iach.
Mae wyth ohonyn nhw wedi cael eu trosglwyddo i swyddogion mewnfudo, tra bo un wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drefnu mynediad anghyfreithlon i wledydd Prydain.
Daw’r digwyddiad ar ôl i bwyllgor seneddol glywed yr wythnos hon fod ffoaduriaid yn talu miloedd o bunnau er mwyn cael eu cludo ar draws y Sianel.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, wrth y pwyllgor fod 138 o ffoaduriaid wedi llwyddo croesi i wledydd Prydain yn ystod mis Rhagfyr y llynedd. Gostyngodd y ffigwr i 47 ym mis Ionawr, cyn cynyddu eto i 79 ym mis Chwefror.
Ers y penwythnos diwethaf, mae achubwyr wedi dod o hyd i sawl grŵp o ffoaduriaid, gan gynnwys plant ifanc, yn ceisio croesi’r môr.