Daw yn sgil sylwadau a wnaeth am y ffrae gwrth-semitiaet
Mae un o brif gefnogwyr Jeremy Corbyn yn Nhŷ’r Cyffredin wedi cael ei wahardd o’r Blaid Lafur yn dilyn y sylwadau a wnaeth ynglŷn â ffrae gwrth-semitiaeth y blaid.
Roedd yr aelod tros Ogledd Derby wedi ymddiheuro ar ôl iddo gael ei feirniadu am ddweud bod y Blaid Lafur “wedi cyfaddawdu gormod” wrth ymateb i gwynion am wrth-semitiaeth.
Cafodd ei ddal yn gwneud y sylwadau ar fideo wrth annerch aelodau o’r grŵp Momentum yn Sheffield.
Mae’r fideo hefyd yn cynnwys y sylw ei fod wedi dathlu yn dilyn ymadawiad yr Aelod Seneddol, Joan Ryan, a ymddiswyddodd o’r Blaid Lafur yr wythnos ddiwethaf oherwydd ei hanfodlonrwydd â gallu’r laid i ddelio â honiadau o wrth-semitiaeth a bwlio.
Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Lafur, mae Chris Williamson bellach wedi ei wahardd wrth i ymchwiliad i’r mater gael ei gynnal.