Fe wnaeth Heddlu Swydd Gaer wahaniaethu yn erbyn dyn gwyn, heterorywiol pan wnaethon nhw wrthod ei gais i ymuno â nhw, yn ôl tribiwnlys.
Roedd cais Matthew Furlong, 25, i ymuno â’r llu yn 2017 yn aflwyddiannus.
Mae’n fab i blismon sy’n gweithio i’r llu ers dros 20 mlynedd.
Barnodd y tribiwnlys yn erbyn yr heddlu am wrthod ei gais ar sail rhywioldeb, hil a rhyw.
‘Tanseilio gonestrwydd’
“Eironi’r peth oedd fod gofyn i fi, drwy gydol y broses gyfan, ddangos fy ngonestrwydd ac maen nhw wedi tanseilio hynny’n llwyr,” meddai.
“Pe bawn i wedi dweud celwydd ar fy ffurflen am gyfweliad ac wedi dweud fy mod yn ddeuryw, er enghraifft, mae posibilrwydd cryf y byddwn i’n gweithio i Heddlu Swydd Gaer nawr yn seiliedig ar gelwydd.
“Nid fi yw’r unig un sydd wedi’i effeithio gan hyn.
“Mae yna nifer o ddynion gwyn, heterorywiol a fydd heb os yn gadael y broses gyfweld gyda’r argraff nad oedden nhw’n ddigon da, pan oedd nifer ohonyn nhw yn ddigon da, mewn gwirionedd.
“Yn ogystal, dw i’n gofidio am yr ymgeiswyr eraill a gafodd eu penodi gan y gallen nhw nawr gwestiynu a gawson nhw eu penodi ar sail haeddiant neu a oedd ganddyn nhw nodwedd gwarchodedig penodol.”
Y tribiwnlys
Enillodd Matthew Furlong ei achos yn dilyn pedwar diwrnod o wrandawiad yn Lerpwl.
Dyma’r achos cyntaf o’r math hwn yng ngwledydd Prydain, yn ôl ei gyfreithiwr.
Clywodd y tribiwnlys fod yr heddlu wedi manteisio ar yr hawl i benodi plismyn ar sail nodweddion penodol, ond eu bod wedi gwneud hynny mewn modd oedd yn gwahaniaethu yn erbyn rhai pobol.
Dim ond er mwyn penderfynu rhwng dau ymgeisydd neu fwy sy’n deilwng o swydd y dylid defnyddio nodweddion personol i wneud penodiad.
Mae cyfreithwyr cyflogaeth yn rhybuddio y dylai cyflogwyr dalu sylw i’r achos rhag iddyn nhw gael eu cyhuddo o ymddwyn yn debyg yn y dyfodol.
Bydd gwrandawiad ar ddiwedd y flwyddyn yn penderfynu faint o iawndal y bydd Matthew Furlong yn ei dderbyn.