Mae Claude Puel wedi cael ei ddiswyddo gan Glwb Pêl-droed Leicester City chwe wythnos ar ôl i Gasnewydd eu curo yng Nghwpan FA Lloegr.

Gan gynnwys y gêm honno ar Ionawr 6, mae tîm y Ffrancwr wedi colli chwe gêm ac wedi cael un gêm gyfartal yn eu saith gêm diwethaf.

Collodd y tîm o 4-1 gartref yn erbyn Crystal Palace ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 23).

Daw’r newyddion bedwar mis yn unig ers i Vichai Srivaddhanaprabha, perchennog y clwb, gael ei ladd mewn damwain hofrennydd y tu allan i Stadiwm King Power y tîm.

Dim ond wyth pwynt sy’n eu gwahanu nhw a’r tri thîm isaf yn nhabl Uwch Gynghrair Lloegr erbyn hyn.

Mae’r clwb wedi diolch i Claude Puel am ei wasanaeth dros gyfnod o 16 mis yn rheolwr.