Mae Clwb Criced Eynsham yn Sir Rydychen yn herio penderfyniad sy’n eu gorfodi i dalu Treth Ar Werth ar eu pafiliwn newydd.
Mae eu cyfreithwyr yn dadlau bod “pwrpas elusennol perthnasol” i’r adeilad newydd.
Ond mae Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn anghytuno, ac fe benderfynodd llys yn 2017 y byddai’n rhaid iddyn nhw dalu’r dreth.
Ond mae’r clwb yn apelio yn erbyn y penderfyniad ar hyn o bryd.