Mae pum newid yn nhîm rygbi merched Cymru i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd am 12.30 heddiw (dydd Sul, Chwefror 24).
Yn eu plith mae Alex Callender, y chwaraewr rheng ôl 18 oed o Lanelli sy’n dechrau gêm dros Gymru am y tro cyntaf erioed, ddwy flynedd yn unig ers iddi ddechrau chwarae’r gêm.
Mae Mel Clay yn dychwelyd i’r ail reng yn dilyn anaf, mae Elinor Snowsill yn dechrau yn safle’r cefnwr.
Mae Hannah Bluck yn dechrau yn y canol, a Jess Kavanagh ar yr asgell chwith.
‘Her enfawr’
“Mae’n her enfawr, ond mae cael dechrau yn deimlad anhygoel,” meddai Alex Callender.
“Dw i wedi cyffroi o gael y cyfle, a dw i’n edrych ymlaen at greu argraff.
“Rydyn ni’n griw positif ac rydym yn edrych ymlaen at fwrw ymlaen gyda’r gêm.
“Wnes i ddechrau chwarae rygbi ddwy flynedd yn ôl yng Nghrwydriaid Llanelli. Dyna fy nghlwb lleol.
“Roedd nifer o ffrindiau o’r ysgol wedi ymuno eisoes, ac fe ddywedon nhw wrtha i am ddod a bwrw iddi, a dynes wnes i.”
Pêl-rwyd
Cyn hynny, meddai, roedd hi’n chwarae pêl-rwyd ond roedd elfen gorfforol rygbi’n apelio ati.
“Gallwn i wneud pethau nad o’n i’n gallu eu gwneud wrth chwarae pêl-rwyd.
“Ymosod o’r asgell ro’n i wrth chwarae pêl-rwyd, ac ro’n i’n cael fy adnabod am fod yn eitha’ talog.
“Roedd gyda fi’r cefndir hwnnw o fwrw iddi a chael y bêl yn fy nwylo, a dyna rwy’ am ei wneud yn erbyn Lloegr.”
Mae Cymru eisoes wedi colli yn erbyn Ffrainc ac wedi cael gêm gyfartal gyda’r Eidal.
Mae Lloegr wedi sicrhau dwy fuddugoliaeth bwynt bonws.