Mae babi newydd wedi cael ei ddarganfod mewn parc yn nwyrain Llundain yn ystod y tywydd rhewllyd.
cafodd y ferch fach ei darganfod yn Newham yn nwyrain Llundain yn hwyr nos Iau (31 Ionawr) a’i chludo i’r ysbyty lle mae hi’n cael gofal, meddai’r Heddlu Met.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cael eu galw i’r parc tua 10.15yh yn dilyn adroddiadau.
Maen nhw’n dweud eu bod yn “gynyddol bryderus” am les y fam ac wedi apelio arni i gysylltu â nhw neu ei hysbyty lleol neu feddyg teulu.